GLAS Y DORLAN AR Y GAMLAS
Mae’r gamlas rhwng Trebannws a Chlydach yn le delfrydol i weld a gwylio glas y dorlan. Weithiau dim ond fflach las a welir wrth i’r aderyn ddiflannu yn y pellter.Ar adegau eraill ceir cyfle i wylio’r aderyn yn agos iawn. Y cyfnod gorau i gael cyfle i wylio’r aderyn yw pan fydd yn pysgota. Dyma’r amser pryd fydd yn oedi am gyfnodau wrth iddo wylio’r dŵr am bysgodyn.Ar adegau fel hyn fe fydd yr aderyn yn aros ar frigyn yn agos i’r gamlas er mwyn plymio o uchder er mwyn dal pysgodyn. Dim ond mater o eiliadau sydd gan yr aderyn i blymio i’r dŵr i ddal ei brae. Rhaid bod yn gyflym neu mi fydd y pysgodyn wedi nofio ymaith. Os yw hi’n gyfnod tawel a dim sŵn ceir yna fe allwch glywed sŵn “plop” wrth i’ aderyn blymio i’r dŵr cyn codi gyda physgodyn yn ei big. Unwaith fydd yr aderyn wedi dal pysgodyn fe fydd yn ei fwrw yn erbyn y gangen neu frigyn cyn ei lyncu yn gyfan.
Mae sawl un wedi gofyn y cwestiwn ; ai iâr neu geiliog sydd i’w gweld ar y gamlas? Wel, mae hi’n weddol hawdd gwahaniaethu rhwng y ceiliog a’r iâr. Wrth edrych ar y pig gellir gweld nodweddion sydd yn gwahniaethu’r ddau. Pig gwbl ddu sydd gan y ceiliog. Mae rhan isaf pig yr iâr yn goch neu oren-goch. Un ffordd hwylus o gofio’r gwahaniaeth yw bod yr iâr wedi rhoi minlliw(lipstick) ar ei phig. Yna fe gofiwch mai’r iâr neu’r fenyw sydd yn gwisgo minlliw.
Fe fydd glas y dorlan yn magu un,dau neu weithiau dri nythiad o gywion mewn tymor. Mae’r nyth yn cael ei adeiladu mewn siambr ar ddiwedd twnel sydd wedi ei gloddio mewn bancyn fel arfer. Mae nifer y nythiadau wrth gwrs yn ddibynnol ar y tywydd a nifer y pysgod sydd ar gael mewn ardal i fwydo’r cywion. Mae hi’n bosibl gwahaniaethu rhwng y cywion a’r oedolion hefyd wrth eu gwylio. Traed a choesau lliw du sydd gan y rhai ifanc ond traed a choesau lliw coch sydd gan yr oedolion. Mae’r tywydd yn gallu effeithio yn fawr ar boblogaeth glas y dorlan. Os fydd y tywydd yn oer a rhewllyd yna mae hi’n anodd iawn iddynt fwydo ac o ganlyniad fe fyddant yn llwygu. Yn ystod tywydd oer iawn fe fydd glas y dorlan yn symud ymhellach tuag at yr arfordir. Mae sawl un wedi eu cofnodi o gwmpas y Marina, Abertawe ac hefyd ar hyd draethau’r arfordir yn y gaeaf. Felly wrth i chi gerdded ar hyd y gamlas gwyliwch a gwrandewch am glas y dorlan.Tybed a fydd eich profiad chi yn debyg i brofiad Trebor Roberts
Rhyfeddais,sefais yn syn-i’w wylio
Rhwng yr helyg melyn
Yna’r glas yn croesi’r llyn
Oedais,ond ni ddaeth wedyn.
|
2 comments
Martin Davies says:
Feb 1, 2021
Erthygl hyfryd, Dewi. Diolch am dweud wrthai sut i adnabod y iar!
‘Yr iâr yn gwisgo minlliw’.
Dewi L says:
Feb 9, 2021
Diolch Martin.